PRIF SWYDDOG CLERC Y CYNGOR (406883)Overview
Ref:
Salary:
Location:
Type:
Posted
Closing date
PRIF SWYDDOG (CLERC Y CYNGOR) Cyflog: GraddfaLC4 (Pwyntiau 50-54 £62,377 i £70,065) – Disgwylir codiad cyflog o’r 1af Ebrill AMSER LLAWN (37 AWR YR WYTHNOS) Mae Cyngor Tref Y Barri wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref, trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad y gymuned a llesiant ein trigolion. Ni yw’r Cyngor Tref mwyaf yng Nghymru, ac mae gennym 22 o aelodau etholedig, ac fe’n gwasanaethir gan 30 aelod o staff. Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau mynwent, mae’n rheoli dwy ganolfan gymunedol, llecynnau tir glas, ymgysylltu a digwyddiadau yn y dref. Wrth inni barhau â’n hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle ar gyfer gweithiwr proffesiynol ymroddedig i ymuno â’r Cyngor yn Brif Swyddog (Clerc y Cyngor). Gan weithio o swyddfa’r Cyngor Tref ynghanol Y Barri, bydd angen i ymgeisyddion allu arddangos casgliad deinamig o sgiliau, gan gynnwys y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol, yn ogystal â phrofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth a heriol. Bydd angen ichi allu deall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol, meddu ar wybodaeth ariannol gadarn a phrofiad o fod yn rheolydd llinell staff. Byddwch hefyd yn gorfod gallu cynrychioli’r Cyngor yn llwyddiannus mewn trafodaethau gyda chyrff allanol. Mae sgiliau TG ‘Office’ cymwys hefyd yn hanfodol. Byddwch yn atebol i’r Cyngor yn ei grynswth, a byddwch yn brif ymgynghorydd ar bopeth yn ymwneud â llywodraethiant er mwyn iddo allu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cynghori ar ac yn cefnogi’r gwaith o lunio polisïau, ac yn sicrhau y caiff penderfyniadau’r Cyngor eu gweithredu’n effeithiol. Mae disgwyl y bydd gennych, neu y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol priodol (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol neu gymhwyster cyfatebol). Bydd disgwyl hefyd ichi ymrwymo i’ch datblygiad proffesiynol parhaus. Hefyd, bydd angen ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r nos ac ambell benwythnos yn ôl y galw. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Er mwyn cael rhagor o fanylion am y swydd gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, ewch i’n gwefan yn: https://www.barrytowncouncil.gov.uk/about_posts/current-vacancies/ DYDDIAD CAU: Ganol nos ar yr 2il Mai 2025 Mae Cyngor Tref Y Barri yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Contact informationA Member of the Ad Warrior Team |