RHEOLYDD CYFLEUSTERAU (407169)Overview
Ref:
Salary:
Location:
Type:
Posted
Closing date
RHEOLYDD CYFLEUSTERAU Ystradgynlais £37,938 i £40,476 pro rata Mae Cyngor Ystradgynlais wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad cymunedol a llesiant ein trigolion. Mae rhan allweddol o’n gwasanaethau yn cynnwys rheoli nifer o gyfleusterau cymunedol pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys dau barc hamdden mawr 14 & 15 hectar, dau barc coffa, cloc canol y dref, cae chwaraeon, clwb bowlio, y fynwent leol a rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus. Wrth inni gynnal ein hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn chwilio am Reolydd Cyfleusterau rhagweithiol, ymarferol a threfnus iawn i oruchwylio a rheoli portffolio eiddo, asedau, a seilwaith y Cyngor. Mae hon yn rôl allweddol sy’n cynnwys nifer o gyfrifoldebau amrywiol ar draws rheoli cyfleusterau, iechyd a diogelwch, cyflawni prosiectau, a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Bydd eich rôl yn cynnwys mynychu cyfarfodydd y Cyngor yn rheolaidd i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i sicrhau y caiff fframweithiau rheoleiddiol, trefniadau archwilio a deddfwriaeth Iechyd & Diogelwch eu hyrwyddo. Bydd disgwyl ichi gynnal y safonau uchaf ar draws ein holl eiddo a llecynnau cyhoeddus, trwy ddatblygu rhaglen fanwl o archwiliadau a gwelliannau ac atgyweiriadau yn ôl y galw, gan sicrhau bod yr holl waith a phrosiectau yn cael eu cyflawni mewn pryd ac o fewn cytundebau lefel gwasanaeth a chyllidebau. Bydd angen hefyd ichi allu cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau a negydiadau gyda chyrff a chyflenwyr allanol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gefnogi cyfrifoldebau amgylcheddol y Cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae disgwyl y bydd gennych gymhwyster proffesiynol priodol. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae sgiliau TG ‘Office’ medrus yn hanfodol hefyd. Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r nos ac ambell benwythnos yn ôl y galw. Er mwyn cael rhagor o fanylion am y swydd gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, ewch i’n gwefan yn: https://www.onevoicewales.wales/opportunities-and-engaging-with-one-voice-wales/vacancies/ Ni dderbynnir dogfennau CV. DYDDIAD CAU: Canol nos ar y 23ain Mai 2025 Mae Cyngor Tref Ystradgynlais yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Contact informationA Member of the Ad Warrior Team |